|
Y PARC GWLEDIG
(Erthygl am dtablygiad y Parc, 2004)
|
|
|
Yn y dechrau, defnyddiwyd carreg o'r chwareli lleol i adeiladu'r morglawdd yng
Nghaergybi, ond ym 1976 terfynwyd y cytundeb i gyflenwi'r garreg. O ganlyniad,
caewyd y chwareli a'r gweithfeydd oll.
Ym 1988, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn wario arian mawr i drawsnewid
Chwarel Gwaith Mynydd. Yn y modd hyn y crewyd Parc Gwledig y Morglawdd.
|
|
Yn ystod y pymtheg mlynedd olaf, mae'r parc wedi'i sefydlu fel ardal hardd
a phoblogaidd sy'n denu ymwelwyr di-ri. Ymestyn y parc dros 106 o aceri ac wrth
fwynhau'r heddwch yno heddiw wrth gesail Mynydd Twr, mae'n anodd dychymygu'r bwrlwm,llwch
a phrysurdeb a fodolai yno ganrif yn ôl.
Ceir llawer iawn o adar yn byw yn y chwarel, ac er mwyn sicrhau digon o fwyd iddynt
dros fisoedd llwm y gaeaf, mae darnau o'r parc yn cael llonydd i dyfu'n wyllt.
Mae rhywbeth yma i blesio pawb: eisteddwch i synfyfyrio wrth y llyn, cerddwch yn
hamddenol o gwmpas y chwareli, neu i'r rhai mwy anturus (a heini) dilynwch y llwybr
i ben y mynydd i fwynhau'r golygfeydd bendigedig dros y môr tuag at yr Iwerddon.
|
|
|
|
Crewyd Canolfan Llwybr Diwydiannol awyr agored ar safle'r "Felin Newydd". Melin oedd hon a ddefnyddiwyd
i falu'r graig yn fân gan gwmni William Wild a'i feibion. Mae'r Ganolfan yn gartref i nifer
o banelau sy'n olrhain hanes y chwareli ac adeiladu'r morglawdd.
Ceir sawl arteffact diddorol o'r cyfnod yma, yn cynnwys eitemau a brynwyd yn ail-law
ym 1849 gan Gwmni Rheilffordd Llundain a Birmingham.
|
|
Ychydig o bellter o'r Ganolfan, gellwch ddarganfod harddwch yr Arfordir Creigog
( y Rocky Coast). Rhed yr arfordir o'r morglawdd tuag at y North Stack. Gellwch ddilyn y llwybr
o Borth Namarch a welir yn y llun hwn hyd at Borth Yr Ogof yng nghysgod y morglawdd. Mae'r
llwybr yn eich tywys heibio Pwll y Crwyn a ddefnyddiwyd fel pwll nofio cyfleus yn yr hên ddyddiau
gan blant y pentrefi cyfagos.
O'r arfordir, gellwch edrych yn syth ar draws Bae Caergybi tuag at Mynydd y Garn yn y pellter.
|
| |