Cwmni
Rheilffordd
Morglawdd
Caergybi

The
Holyhead
Breakwater
Railway
Company

Hafan
Prosiectau Gwybodaeth y Trên Bach Rheilffordd Gul Rheilffordd Safonol Goleudy'r Morglawdd
Y Parc Gwledig Digwyddiadau Lleol Hanes a Threftadaeth Yr Amgueddfa Arforol Cysylltiadau
English

Gwobr Twristiaeth Môn | Anglesey Tourism Award, 2008


Yn y Newyddion
Rhai o straeon CRMC yn y cyfryngau.
Darllenwch mwy >>

Safle Treftadaeth y Byd
Yr ydym yn cefnogi'r cais i gydnabod Morglawdd Caergybi yn swyddogol fel Safle Treftadaeth y Byd.
Darllenwch mwy >>

Arloesi Canser
Yn 2001, darganfuwyd fod Jennifer Horsford yn dioddef o ganser yr oesoffagws. Ysbrydolwyd hi i gychwyn ar fenter yr HBRC. Dyma'r hanes.
Darllenwch mwy >>

Datblygiad Glannau'r Môr
Yr ydym yn awyddus iawn i gasglu gwybodaeth am agweddion a theimladau'r cyhoedd tuag at y cynlluniau i ddatblygu glannau'r môr yn ardal Porthyfelin (am ragor o wybodaeth gellwch ddarllen yr erthygl am Ddatblygiad Arforol yn yr adran Newyddion ar ein gwefan). Byddem yn ddiolchgar iawn i glywed gennych!
Cysylltwch >>



Cliciwch yma am dicedi i fynd ar y Trên Bach yn rhad ac am ddim


CYSYLLTWCH

Cliciwch yma am ein
manylion cysylltu.


Cliciwch yma i cael hyd i ni

*

Enillydd Gwobr Atyniad Ymwelwyr Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Môn, 2008

*

CROESO - WELCOME

Croeso cynnes i wefan Cwmni Rheilffordd Morglawdd Caergybi (CRMC). Gobaith y cwmni yw datblygu rheilffordd fechan i gludo teithwyr o'r hên chwareli lawr at y goleudy ar ddiwedd y morglawdd. Buasai hyn o fudd mawr i'r parc sydd eisoes yn ardal gadwraethol o fri.

Y Trên Bach

Mae'r trên bach yn rhedeg ar y lôn. Dechreuodd redeg yn ystod misoedd yr haf, 2005 a chawsom dymor llwyddiannus iawn. Yn 2008, ychwanegwyd trên arall i'r gwasanaeth. Gellwch ddod o hyd i wybodaeth am amserlenni, prisiau a phrynu tocynnau ar brif dudalen y trên bach.
Mwy >>

Prosiect Rheilffordd Gul

Yr ydym yn gobeithio adeiladu rheilffordd o gledrau cul 15" a fyddai'n galluogi'r trên i deithio o gwmpas gwaelod yr hên chwareli cyn dilyn llwybr gwreiddiol yr hên reilffordd yn ôl at yr hên siediau injan. Byddem yn gofalu na fyddai'r cynllun yn amharu ar yr amgylchedd. Byddai'r teithwyr yn mwynhau amrywiaeth o olygfeydd ysblennydd o'r arfordir creigog hyd at harddwch Mynydd Twr.
Mwy >>

Prosiect Rheilffordd Safonol

Gobaith y prosiect yma yw ail-osod darn o'r rheilffordd wreiddiol a arweiniai o'r goleudy yn ôl at y sied. Yma, byddai'r rheilffordd safonol yn ymuno â'r rheilffordd o gledrau cul. Fel ers talwm, y sied fyddai canolbwynt yr ardal: gellid adeiladu amgueddfa yma i olrhain hanes y morglawdd a'r chwareli cysylltiedig. Byddem hefyd yn ceisio cael gafael ar hên injin a cherbydau'r Rheilffordd Brydeinig. Gallem ddefnyddio'r rhain i leoli bwyty, a thripiau addysgiadol. Ar hyn o bryd, yr ydym yn ceisio dychwelyd injan o'r Azores sydd yn gysylltiedig hefo'r rheilffordd lydan saith troedfedd a ddefnyddiwyd yma yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mwy >>

Hanes a Threftadaeth y Chwarel a'r Morglawdd

Cnewyllyn ein diddordeb fel cwmni yw hanes a threftadaeth diddorol chwareli a morglawdd Caergybi. Mae amryw o luniau ar y dudalen hon sydd yn cyfleu ysbryd yr ardal a'i phobl mewn oes a fu.
Mwy >>

Ymunwch â Ni

Cwmni cymunedol lleol yw Cwmni Rheilffordd Morglawdd Caergybi gyda chyfarwyddwyr di-dâl, gweithlu a gyflogir yn ôl y galw a gwirfoddolwyr. O reidrwydd, buasem yn croesawu rhoddion ariannol o unrhyw swm ac yn eu cydnabod yn ddiolchgar.

Yr ydym trwy'r adeg yn chwilio am yrrwyr lleol a fyddai ar gael i yrru'r trên rhwng 10.00am a 4.00pm yn ddyddiol. Byddai'n rhaid iddynt feddu trwydded Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus dosbarth D. Byddai'r gwaith hwn hefyd yn ôl y galw, ac yn talu £6.00 yr awr.

Byddai'r cwmni'n awyddus iawn hefyd i glywed gan unrhyw unigolyn a fyddai'n fodlon cynnig eu hamser i helpu rhedeg gwasanaeth y trên bach. Mae amryw o ddyletswyddau i'w cyflawni: yr ydym angen unigolion i dderbyn arian a gwerthu tocynnau, yr ydym angen giards ar y trên a phobl i ymwneud â'r cyhoedd yn gyffredinol. Byddem yn hapus i dalu costau dyddiol.
Cysylltwch i ymuno â ni. >>


Cynllun gwefan gan eDesign.
© Cwmni Rheilffordd Morglawdd Caergybi 2004-2008.

Noddir y prosiect hwn gan cymunedau yn gyntaf | communities first.