|
Lleolir yr Amgueddfa Arforol yn agos iawn i fan cychwyn ein
Trên Bach ar Draeth Newry, Caergybi.
Darganfuwyd y cerfiad hwn mewn clawdd yng ngardd gefn yng Nghaergybi.
Amcangyfrir ei fod oddeutu 3000 mlynedd o oed.
Mae'r eitem yma'n rhan o'r arddangosfa yn yr Amgueddfa.
Bu'n rhaid tynnu'i ffwrdd sawl haenen o baent gwyn cyn
canfod sut yr edrychodd y wraig hon yn wreiddiol.
SIOP ANRHEGION
Gellir prynu swfenir, neu anrhegion diddorol yma. Ceir amrywiaeth o lyfrau da
sy'n addas ar gyfer pob oedran. Mae'n fan perffaith i brynu anrheg ar gyfer
unrhyw un sy'n ymhyfrydu mewn hanes arforol.
|
YR AMGUEDDFA ARFOROL
Lleolir yr Amgueddfa Arforol ar Draeth Newry, yng Nghaergybi.
Credir mai hwn yw'r cartref hynaf i fad achub yng Nghymru (circa 1858).
Yma, olrheinir hanes a datblygiad Caergybi o bentref bach pysgota i
borthladd llwyddiannus y dydd presennol.
Mae'r amgueddfa yn cynwys bistro ac bar cyhoeddus sydd hefo
balconi yn edrych dros y traeth.
Olrheinir hanes lleol trwy gyfrwng medalau, lluniau ac
arddangosfeydd cyfnewidiol.
Yma, gellwch ddarganfod hanes Caergybi o'i gwreiddiau hyd at y
presennol.
Cynllun gwefan gan
eDesign.
©
Cwmni Rheilffordd Morglawdd Caergybi 2004-2007.
Noddir y prosiect hwn gan
cymunedau yn gyntaf | communities first.
|