Cwmni
Rheilffordd
Morglawdd
Caergybi

The
Holyhead
Breakwater
Railway
Company

Hafan
Prosiectau Gwybodaeth y Trên Bach Rheilffordd Gul Rheilffordd Safonol Goleudy'r Morglawdd
Y Parc Gwledig Digwyddiadau Lleol Hanes a Threftadaeth Yr Amgueddfa Arforol Cysylltiadau
English

Llwybr ein taith, Haf 2005 ...






Y Trên Bach yn Y Parc Gwledig, 2005


Datblygiad Glannau'r Môr
Yr ydym yn awyddus iawn i gasglu gwybodaeth am agweddion a theimladau'r cyhoedd tuag at y cynlluniau i ddatblygu glannau'r môr yn ardal Porthyfelin (am ragor o wybodaeth gellwch ddarllen yr erthygl am Ddatblygiad Arforol yn yr adran Newyddion ar ein gwefan). Byddem yn ddiolchgar iawn i glywed gennych!
Cysylltwch >>


PROSIECTAU

Ym 1848, yr oedd rheilffyrdd yn cael eu datblygu'n gyflym ar draws y wlad. Penderfynodd y llywodraethau lleol a chenedlaethol ymgymryd â'r gwaith o adeiladu morglawdd yng Nghaergybi a fyddai'n ymestyn allan i'r môr am filltir a hanner. Yr oedd yn dasg aruthrol a fyddai'n cymryd pum mlynedd ar hugain i gwblhau.

Yn y blynyddoedd canlynol, rhoddodd y morglawdd loches i amrywiaeth o longau. Profodd i fod yn fan delfrydol i ddatblygu harbwr mewnol masnachol sydd bellach yn borthladd pwysig i deithwyr a thrafnidiaeth masnachol rhwng Prydain, Ewrop a'r Iwerddon. Heddiw, mae'r porthladd yn gartref i'r fferis diweddaraf ac fe'i defnyddir yn flynyddol gan oddeutu pedair miliwn o deithwyr.

Blynyddoedd maith wedyn yn 2003, wedi cyfnod hir o ymgyrchu lleol, cytunodd yr awdurdodau lleol a pherchnogion y porthladd y dylid gwneud mwy i elwa ar ein treftadaeth lleol trwy wella'r Parc Gwledig a sefydlwyd yn barod fel ardal gadwraethol o fri. Penderfynwyd ail-sefydlu rheilffordd o gledrau cul rhwng yr hên chwareli a'r goleudy ar ddiwedd y morglawdd, pellter o ddwy filltir a hanner.

Yn rhan gyntaf 2004, gyda chefnogaeth Cymunedau yn Gyntaf, ffurfiwyd grŵp a fyddai'n gyfrifol yn gyntaf am gofnodi a chadw'r treftadaeth lleol, ac yna'i sicrhau fod yr holl ardal ar gael i'r cyhoedd. I'r perwyl hwn, dechreuodd y trên bach redeg rhwng Cei Mackenzie, Traeth Newry a'r Parc Gwledig yng Ngorffennaf, 2005.

Gan fod gwasanaeth y trên bach wedi ei sefydlu erbyn hyn, gallem ddechrau canolbwyntio ar brosiectau newydd: cynlluniau'r rheilffordd gul, a chreu arddangosiad barhaol yn cofnodi hanes y chwareli ac adeiladu'r morglawdd. Yr ydym hefyd yn gobeithio ail-sefydlu'r rheilffordd safonol a redai ar hyd y morglawdd.

Ar ben hyn, yr ydym yn gobeithio cyd-weithio'n agos gyda'r Amgueddfa Arforol mewn prosiect i atgyweiro'r goleudy ar ddiwedd y morglawdd.

Jennifer Horsford and Brian Wills with Land Train, September 2007
Jennifer Horsford a Brian Wills, rhai o sylfaenwyr CRMC, gyda'r Drên Bach, Medi 2007.


Cynllun gwefan gan eDesign.
© Cwmni Rheilffordd Morglawdd Caergybi 2004-2008.

Noddir y prosiect hwn gan cymunedau yn gyntaf | communities first.